Cartref

 Arfer Da

 Gostyngiadau

 Sbwriel a’r Gyfraith

 Ffeithiau a Ffigyrau

Cartref

   Gall ysmygu wneud drwg i’ch busnes…

  Mae stympiau a phacedi sigarét a matsys yn sbwriel.

  Mae gennych CHI gyfrifoldeb i gadw’r tir o amgylch eich busnes yn glir o sbwriel –
  gall methu â gwneud hynny arwain at gyflwyno Rhybudd Clirio Sbwriel.

  O’r 2 il Ebrill, ni fydd eich cwsmeriaid yn gallu ysmygu y tu mewn i’ch adeilad. Os   ydynt yn ysmygu y tu allan, ydych chi wedi meddwl ble maent yn mynd i ddiffodd
  eu sigarennau? Mewn pot planhigyn hwylus, ar y palmant, ym mynedfa’r drws...

  Gallai’r canlyniadau greu argraff wael o’ch busnes...

  • Cwsmeriaid yn gorfod cerdded drwy awyrgylch sy’n cyfateb i flwch llwch i gyrraedd eich drws
  • Llawer o sbwriel cysylltiedig ag ysmygu i chi ei glirio
  • Swyddogion gwarchod rhag sbwriel yn rhoi dirwy i gwsmeriaid am ollwng stympiau sigarét.

  Mae dewis arall...

  • Sicrhewch fod bin arbennig ar gyfer stympiau sigarét. Pwyswch yma am gynnig arbennig i brynu bin.
  • Darparwch le arbennig i gwsmeriaid sy’n ysmygu ddiffodd eu sigarét. Am wybodaeth bellach, pwyswch yma.

  Os hoffech wybod mwy am:


  Cael Cymorth...

  Mae’r wefan hon wedi’i chreu i’ch helpu i baratoi ar gyfer y gwaharddiad ar
  ysmygu a ddaw i rym ar Ebrill 2 il 2007. Am wybodaeth bellach am y gwaharddiad,   ewch i www.smokingbanwales.co.uk.

  Manylion Cyswllt Cadwch Gymru’n Daclus:

  33-35 Heol y Gadeirlan
  Caerdydd
  CF11 9HB
  Ffôn: (029) 20256767
  Ffacs: (029) 20256768  
  Ebost: leq@keepwalestidy.org

  Gwefan: www.keepwalestidy.org

  Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn Sefydliad Gwirfoddol Cenedlaethol annibynnol gyda   statws Elusennol ac mae’n gweithio i wella’r amgylchedd lleol. Mae Cadwch Gymru’n   Daclus yn cydlynu nifer o raglenni a phrosiectau amgylcheddol. Rydym yn bartner yn   Ymwybyddiaeth o Wastraff Cymru ac Amgylchedd Cymru ac yn darparu gwasanaeth   gwybodaeth i asiantaethau amrywiol a’r cyhoedd am sbwriel a materion cysylltiedig   eraill.

 

Ymwadiad
Nid yw Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli gwefannau cysylltiedig a weithredir gan eraill ac nid yw’r wybodaeth a ddarperir ynddynt yn cynrychioli ein barn ni o anghenraid.