Cartref

 Arfer Da

 Gostyngiadau

 Sbwriel a’r Gyfraith

 Ffeithiau a Ffigyrau

Arfer Da

  Beth sydd wedi’i wneud?

  Corfforaeth Douglas ar Ynys Manaw
 
Ar hyn o bryd, mae Corfforaeth Douglas ar Ynys Manaw’n gweithio’n aos gyda   EnCams (Grŵp Prydain Daclus gynt) ar brosiect sy’n ceisio darganfod sut a pham mae   sbwriel yn cyrraedd strydoedd y dref. Bydd hyn o gymorth i’r Gorfforaeth dargedu’r   ffynonellau sbwriel yn ogystal â’i lanhau. Tynnodd y gwaith ymchwil sylw at sbwriel   sy’n gysylltiedig a smygu, sy’n gryn broblem. Mae’n bwysig atal y sbwriel hwn rha   cael ei greu o gwbl oherwydd mae’n anodd ei sgubo gan ei fod yn tueddu i lynu mewn   cilfachau a chorneli.

  Tueddir i weld y sbwriel hwn yn bennaf wrth ddrysau adeiladau ble mae ysmygwyr yn   sefyll yn ystod eu hegwyl i gael sigarét. Mae’r Gorfforaeth yn gofyn i aelodau’r Siambr   Fasnach ofalu am eu rhan hwy o’r dref.

  Canfuwyd dau ateb llwyddiannus i’r broblem hon, sef drwy ddarparu:

  Dyfyniadau

  Conka Design
  "Comisiynwyd 'Conka Design', cwmni dylunio a datblygu cynnyrch creadigol, i   gynllunio amrywiaeth o finiau sigarét gan weithgynhyrchydd o Ferthyr Tudful,
  'Design & Manufacture Ltd.' Mae Conka Design yn awyddus i gefnogi’r gwaharddiad
  ar smygu ac yn falch bod un o’n cynhyrchion yn helpu i ostwng y 2.25 miliwn o   stympiau sigarét sy’n creu sbwriel ar strydoedd Cymru.
  
www.conkadesign.co.uk"

  Roedd Ben Sparks, sy’n gweithio ar stondin flodau ar Ffordd Holloway, Islington, yn   fwy na pharod i dderbyn blwch stympiau am ddim. Meddai, "Doeddwn i ddim yn   gwybod ei bod yn anghyfreithlon taflu sigarét ar y llawr. Os yw’n cadw’r strydoedd
  yn lân, mae o am y gorau. Rwyf yn smygu fy hun ac mae gennyf flwch stympiau yn   awr ac rwyf wedi’i ddefnyddio eisoes."
  
http://www.islington.gov.uk/Council/CouncilNews/PressOffice/2004/12/892.asp

  Adeiladau sydd wedi gweithredu i fod yn ddi-fwg cyn y   gwaharddiad…

  Canolfan Gelfyddydol y Chapter
  
Penderfynodd Canolfan Gelfyddydol y Chapter y byddai’n troi’n ddi-fwg wedi   ymgynghori gyda’r staff a’r cwsmeriaid. Roedd cefnogaeth eang i’r gwaharddiad ar   smygu. Cynhaliodd y ganolfan ymgyrch hysbysebu am 3 mis cyn cyflwyno’r   gwaharddiad a chreodd batio wedi’i gynhesu yn yr awyr aored gyda biniau a
  blychau llwch. Gosodwyd biniau y tu allan i’r fynedfa ffrynt hefyd, i gael gwared ar   unrhyw broblemau gyda sbwriel. Roedd Canolfan Gelfyddydol y Chapter yn disgwyl
  llai o fusnes wedi’r gwaharddiad ac fe ddigwyddodd hyn am ryw wythnos ond byth   ers hynny mae wedi cynyddu’n raddol. Ar y cychwyn canfu’r ganolfan gynnydd yn y   sbwriel cysylltiedig a smygu ond nid yw hon yn broblem bellach. Carol Jones,   Rheolwr Marchnata, Canolfan Gelfyddydol y Chapter.

  Clwb Golff Aberdyfi
  Mae Clwb Golff Aberdyfi wedi darparu balconi ar gyfer ysmygwyr gyda phedwar   allbost i ysmygwyr – a brynwyd gan y cwmni biniau No Butts. Nid yw wedi cael   unrhyw broblemau mawr gyda sbwriel ers cyflwyno’r gwaharddiad a’r biniau.   Dywedodd John Griffiths nad oedd yn meddwl bod y gwaharddiad wedi gwneud   unrhyw ddrwg i fusnes.

  Gwesty Bae Trearddur
  Mae Gwesty Bae Trearddur wedi gosod dau fin wal ym mlaen yr adeilad a phum bin   annibynnol o amgylch yr adeilad. Dywedodd Lauren o’r gwesty bod cyflwyno’r biniau   wedi lleddfu’r broblem o sbwriel cysylltiedig a smygu y tu allan i’r gwesty a bod y   busnes wedi gwneud yn dda ers cyflwyno’r gwaharddiad.

  Os yw eich busnes chi wedi cymryd camau positif er mwyn cael gwared ar sbwriel   cysylltiedig a smygu, byddai Cadwch Gymru’n Daclus yn hoffi clywed gennych!

  Pa wybodaeth fyddem yn hoffi ei derbyn?

  • Pa gamau gweithredu a gymerwyd gennych?
  • Pam ddaru chi benderfynu gweithredu yn y lle cyntaf?
  • Pryd ddaru chi ddechrau gweithredu?
  • Sut ddaru eich busnes elwa o’r camau gweithredu hyn?

  Atebwch y cwestiynau hyn ac anfonwch eich stori, eich enw, eich cyfeiriad a’ch
  rhif ffôn drwy ebost at leq@keepwalestidy.org

 

Ymwadiad
Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi defnyddio’r enghreifftiau uchod gan ymddiried yn yr hyn sy’n cael ei ddatgan ac nid yw, mewn unrhyw ffordd, yn cymeradwyo’r dulliau uchod o gael gwared ar sbwriel cysylltiedig a smygu.