Cartref

 Arfer Da

 Gostyngiadau

 Sbwriel a’r Gyfraith

 Ffeithiau a Ffigyrau

Sbwriel a'r Gyfraith

  Y Broblem...

 
Gwelir stympiau sigarét, matsys a’u blychau ar   86% o strydoedd yng Nghymru, a’r rhan fwyaf
  o’r sbwriel hwn yw stympiau sigarét.

  A yw Sbwriel Cysylltiedig a smygu’n   drosedd?
 
Mae Deddf Gwarchod yr Amgylchedd (1990) yn   rhoi grym i awdurdodau lleol weithredu yn erbyn   unigolion a busnesau sy’n creu sbwriel ac i lanhau ardaloedd.

  Mae gollwng sbwriel yn drosedd. Nid yw gollwng stwmp sigarét yn wahanol i daflu   unrhyw fath arall o sbwriel ar lawr.

  • Mae Deddf Gwarchod yr Amgylchedd (1990) yn rhoi grym i awdurdodau lleol weithredu yn erbyn unigolion a busnesau sy’n creu sbwriel ac i lanhau ardaloedd.
  • Mae’r Ddeddf Cymdogaethau ac Amgylchedd Glân (2005) yn egluro ystyr sbwriel drwy ddiffinio sigarennau, sigarau a chynnyrch tebyg fel sbwriel.
  Yng Nghymru, mae gollwng unrhyw fath o sbwriel cysylltiedig ag iechyd yn gallu   arwain at gyflwyno Rhybudd Dirwy Penodol o £75 yn y fan a’r lle, neu hyd at £2,500   wedi collfarn ddiannod.

  
   Deddfwriaethau

  Dyma grynodeb o ddeddfau sbwriel Deddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990 rhan 4:

  • Trosedd Adran 87 Gadael Sbwriel: Trosedd gyfreithiol wrth ollwng, taflu, gadael neu gael gwared ar sbwriel mewn man cyhoeddus ac anharddu’r fan. Gall hyn arwain at ddirwy hyd at uchafswm o £2,500, a gellir cynnal achos mewn llys ynadon.
  • Dirwy Benodol Adran 88 – £75 am Ollwng Sbwriel: Rhoddir tocyn yn y fan a’r lle a bydd gennych 14 diwrnod i’w thalu. Mae gan Swyddogion yr Awdurdod Lleol sy’n rhoi’r ddirwy rym i ofyn am enwau a chyfeiriadau troseddwyr,
    a gall y ddirwy am wrthod gwneud hynny fod yn £1000.

  Mae Adran 20 o’r Ddeddf Cymdogaethau ac Amgylchedd Glân (2005) yn caniatáu i   Awdurdodau Lleol gyflwyno:

  • Rhybudd Clirio Sbwriel i berchennog neu ddeiliad tir gan ofyn iddynt glirio’r tir a chael gwared â’r sbwriel i gyd. Gellir cyflwyno Rhybuddion Cosb Penodol yn lle erlyn.
  • Mae Rhybudd Rheoli Sbwriel Stryd yn galluogi i Awdurdodau Lleol roi sylw i sbwriel stryd a grëir gan weithgareddau mewn eiddo cyfagos. Ni cheir unrhyw gyfyngiadau ynghylch y math o sbwriel y gellir cyflwyno’r rhybudd hwn yn ei gylch.